Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

97Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymateb i argymhellion yr Archwilydd CyffredinolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i Weinidogion Cymru gymryd camau, rhaid i Weinidogion Cymru lunio ymateb i’r argymhellion.

(2)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r ymateb, a

(b)anfon yr ymateb—

(i)at yr Archwilydd Cyffredinol,

(ii)i’r prif gyngor y mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ymwneud ag ef, a

(iii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.