RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU
PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU
Asesiadau panel o berfformiad
94Asesiadau perfformiad gan baneli: rheoliadau atodol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer penodi paneli gan brif gynghorau o dan adran 92(1), ac mewn cysylltiad â hynny.
(2)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—
(a)
penodi aelodau o banel (gan gynnwys nifer, ac unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir neu y mae rhaid eu penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer penodi);
(b)
talu ffioedd i aelodau o banel neu mewn perthynas â hwy.