Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Rhn. 6 title wedi eu mewnosod (15.7.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/797), rhlau. 1(2), 6(1)
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Rhn. 6 Pnd. 1 title wedi eu mewnosod (15.7.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/797), rhlau. 1(2), 6(2)
(1)Rhaid i brif gyngor lunio ymateb i bob adroddiad a wneir o dan adran 92(4) mewn cysylltiad â’r cyngor.
(2)Rhaid i’r ymateb ddatgan—
(a)i ba raddau y mae’r cyngor yn derbyn y casgliadau yn yr adroddiad ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad,
(b)i ba raddau y mae’r cyngor yn bwriadu dilyn unrhyw argymhellion sydd yn yr adroddiad, ac
(c)unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.
(3)Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(4)Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiadau a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).
(5)Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.
(6)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio’r ymateb terfynol rhaid i’r cyngor—
(a)cyhoeddi’r ymateb, a
(b)anfon yr ymateb at—
(i)aelodau’r panel,
(ii)Archwilydd Cyffredinol Cymru,
(iii)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(iv)Gweinidogion Cymru.
(7)Rhaid i drefniadau o dan adran 92(1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un ymateb i adroddiad cyn y diwrnod sydd bedwar mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I2A. 93 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/297, ergl. 3(a)