RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Asesiadau panel o berfformiad

93Dyletswydd ar brif gyngor i ymateb i adroddiad ar asesiad perfformiad gan banel

(1)

Rhaid i brif gyngor lunio ymateb i bob adroddiad a wneir o dan adran 92(4) mewn cysylltiad â’r cyngor.

(2)

Rhaid i’r ymateb ddatgan—

(a)

i ba raddau y mae’r cyngor yn derbyn y casgliadau yn yr adroddiad ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad,

(b)

i ba raddau y mae’r cyngor yn bwriadu dilyn unrhyw argymhellion sydd yn yr adroddiad, ac

(c)

unrhyw gamau y mae’r cyngor yn bwriadu eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

(3)

Rhaid i’r cyngor sicrhau bod fersiwn ddrafft o’r ymateb ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(4)

Rhaid i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio adolygu’r ymateb drafft a chaiff wneud argymhellion ar gyfer newidiadau i’r datganiadau a wneir yn y fersiwn ddrafft o dan is-adran (2).

(5)

Os nad yw’r cyngor yn gwneud newid a argymhellir gan y pwyllgor llywodraethu ac archwilio o dan is-adran (4), rhaid i’r cyngor nodi, yn yr ymateb, yr argymhelliad a’r rhesymau pam na wnaeth y newid.

(6)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio’r ymateb terfynol rhaid i’r cyngor—

(a)

cyhoeddi’r ymateb, a

(b)

anfon yr ymateb at—

(i)

aelodau’r panel,

(ii)

Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(iii)

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(iv)

Gweinidogion Cymru.

(7)

Rhaid i drefniadau o dan adran 92(1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un ymateb i adroddiad cyn y diwrnod sydd bedwar mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.