RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Asesiadau panel o berfformiad

92Dyletswydd ar brif gyngor i drefnu asesiad perfformiad gan banel

(1)

Rhaid i brif gyngor wneud trefniadau fel bod panel a benodir gan y cyngor, o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, yn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(2)

Yn yr adran hon, cyfeirir at asesiad o dan is-adran (1) fel “asesiad perfformiad gan banel”.

(3)

Wrth gynnal asesiad perfformiad gan banel mewn cysylltiad â chyngor, rhaid i banel ymgynghori â’r canlynol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—

(a)

pobl leol,

(b)

personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,

(c)

staff y cyngor, a

(d)

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.

(4)

Yn dilyn asesiad perfformiad gan banel rhaid i banel lunio adroddiad sy’n nodi—

(a)

ei gasgliadau ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;

(b)

unrhyw gamau y mae’r panel yn argymell bod y cyngor yn eu cymryd er mwyn cynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.

(5)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud yr adroddiad rhaid i’r panel ei anfon—

(a)

i’r cyngor,

(b)

at Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(c)

at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a

(d)

at Weinidogion Cymru.

(6)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan y panel, rhaid i’r cyngor—

(a)

sicrhau bod yr adroddiad ar gael i bwyllgor llywodraethu ac archwilio’r cyngor, a

(b)

cyhoeddi’r adroddiad.

(7)

Rhaid i drefniadau o dan is-adran (1) alluogi’r prif gyngor i gyhoeddi o leiaf un adroddiad cyn y diwrnod sydd chwe mis cyn y diwrnod y mae’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor i fod i’w gynnal.

(8)

Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at banel yn gyfeiriad at aelodau’r panel hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth y mynegir ei bod yn swyddogaeth i banel yn swyddogaeth sy’n perthyn i bob aelod o’r panel na chaniateir ei harfer oni fo’n cael ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.