RHAN 1ETHOLIADAU

Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau

9Penderfyniadau i arfer y pŵer i newid y system bleidleisio

(1)

Rhaid i bŵer prif gyngor o dan adran 8(1) gael ei arfer drwy benderfyniad y cyngor yn unol â’r adran hon.

(2)

Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer wedi ei basio oni fo nifer y cynghorwyr sy’n pleidleisio o’i blaid mewn cyfarfod o’r cyngor yn ddau draean o leiaf o gyfanswm y seddau cynghorwyr ar y cyngor.

(3)

Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo—

(a)

y penderfyniad yn cael ei ystyried mewn cyfarfod a gynullwyd yn arbennig at y diben hwnnw,

(b)

hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod yn cael ei roi i’r holl gynghorwyr, ac

(c)

y cyfarfod yn digwydd ar ôl diwedd cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad.

(4)

Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo’n cael ei basio cyn 15 Tachwedd yn y flwyddyn sydd dair blynedd cyn y flwyddyn y bwriedir i’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor gael ei gynnal.

(5)

Ar ôl i brif gyngor arfer y pŵer, nid yw penderfyniad pellach i arfer y pŵer yn cael unrhyw effaith oni fo dau etholiad cyffredin ar gyfer y cyngor wedi eu cynnal o dan y system bleidleisio y’i newidiwyd iddi.

(6)

Nid yw penderfyniad i arfer y pŵer sy’n cael ei basio yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin olynol i’r cyngor yn cael unrhyw effaith os yw’r cyngor wedi pleidleisio yn flaenorol ar benderfyniad i arfer y pŵer yn ystod y cyfnod hwnnw mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn unol ag is-adran (3).