Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

82Yr amodau sydd i’w bodloni cyn diwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor: nid yw cais gan brif gynghorau yn ofynnol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 80(2)(c) fel a ganlyn.

(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy ar ddrafft o’r rheoliadau.

(3)Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud y rheoliadau, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i—

(a)y prif gynghorau yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig,

(b)os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal—

(i)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, a

(ii)os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, neu os bydd ganddo’r swyddogaeth honno o dan y rheoliadau, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal honno,

(c)os bydd y rheoliadau’n diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 er mwyn pennu neu hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono o fewn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, a

(d)y cyd-bwyllgor corfforedig.