(1)Caiff y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, yn gofyn iddynt ystyried gwneud rheoliadau o dan adran 80 i ddiwygio neu ddirymu’r rheoliadau cyd-bwyllgor a sefydlodd y cyd-bwyllgor corfforedig.
(2)Ond ni chaiff cais o dan yr adran hon ofyn i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu swyddogaeth—
(i)onid yw honno yn swyddogaeth i’r cynghorau sy’n gwneud y cais;
(ii)onid honno yw’r swyddogaeth llesiant economaidd;
(b)diwygio rheoliadau a wnaed o dan adran 74 (rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud) er mwyn—
(i)hepgor neu addasu swyddogaeth sy’n ymwneud â gwella addysg neu drafnidiaeth;
(ii)hepgor y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol;
(iii)hepgor y swyddogaeth llesiant economaidd neu osod, addasu neu hepgor gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth honno;
(c)dirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 74.
(3)Ni chaniateir gwneud cais o dan yr adran hon yn gofyn i Weinidogion Cymru ystyried diwygio rheoliadau cyd-bwyllgor er mwyn pennu prif ardal (fel y bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â’r ardal honno) oni fo’r prif gyngor ar gyfer yr ardal honno yn un o’r ceiswyr.