RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU

PENNOD 4SEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN NA FO CAIS WEDI EI WNEUD

75Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau o dan adran 74

(1)

Mae’r amodau a grybwyllir yn adran 74(2) fel a ganlyn.

(2)

Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol ar ddrafft o’r rheoliadau—

(a)

y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau,

(b)

pobl leol yn ardaloedd y prif gynghorau,

(c)

pob un o’r cynghorau ar gyfer cymunedau yn ardaloedd y prif gynghorau,

(d)

yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal unrhyw un neu ragor o’r prif gynghorau,

(e)

y bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardaloedd y prif gynghorau,

(f)

pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan un neu ragor o’r prif gynghorau, ac

(g)

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)

Yr ail amod yw, os yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni a bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan adran 74, eu bod wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad—

(a)

i’r prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau, a

(b)

os yw’r rheoliadau yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, i’r awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn unrhyw un neu ragor o’r prif ardaloedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau.

(4)

Gellir bodloni’r amod cyntaf drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.