RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU
PENNOD 4SEFYDLU CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG PAN NA FO CAIS WEDI EI WNEUD
74Rheoliadau cyd-bwyllgor pan na fo cais wedi ei wneud
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, sefydlu corff corfforedig (a elwir yn gyd-bwyllgor corfforedig) i arfer, mewn perthynas â’r prif ardaloedd a bennir yn y rheoliadau (“yr ardaloedd perthnasol”), swyddogaeth a bennir yn y rheoliadau.
(2)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau a nodir yn adran 75 wedi eu bodloni.
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ond pennu—
(a)
swyddogaeth y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol sy’n ymwneud ag—
(i)
gwella addysg;
(ii)
trafnidiaeth;
(b)
y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (gweler is-adran (4) ynglŷn â hynny);
(c)
y swyddogaeth llesiant economaidd.
(4)
Pan bennir y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol mewn rheoliadau cyd-bwyllgor, mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) yn gymwys i’r cyd-bwyllgor corfforedig.
(5)
Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon sy’n pennu swyddogaeth prif gyngor wneud darpariaeth fel bod y swyddogaeth naill ai—
(a)
yn arferadwy gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y prif gynghorau ar gyfer yr ardaloedd perthnasol, neu
(b)
yn arferadwy yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r prif gynghorau hynny.
(6)
Caniateir i swyddogaeth prif gyngor gael ei phennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon drwy gyfeirio at weithgaredd neu weithgareddau penodol.