RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Hyfforddi aelodau a staff cynghorau cymuned

67Cynlluniau hyfforddi cynghorau cymuned

(1)

Rhaid i gyngor cymuned wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun hyfforddi”) sy’n nodi ei gynigion mewn perthynas â darparu hyfforddiant ar gyfer—

(a)

cynghorwyr y cyngor cymuned, a

(b)

staff y cyngor cymuned.

(2)

Rhaid i gyngor cymuned wneud ei gynllun hyfforddi cyntaf yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y mae is-adran (1) yn dod i rym.

(3)

Rhaid i gyngor cymuned wneud cynllun hyfforddi newydd yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr cymuned i’r cyngor.

(4)

Rhaid i gyngor cymuned adolygu ei gynllun hyfforddi o bryd i’w gilydd.

(5)

Os yw cyngor cymuned yn diwygio ei gynllun hyfforddi, neu’n rhoi un newydd yn ei le, rhaid iddo gyhoeddi’r cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd.

(6)

Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaethau cyngor cymuned o ran—

(a)

penderfynu ar gynnwys cynllun hyfforddi neu unrhyw gynllun diwygiedig, a

(b)

adolygu’r cynllun hyfforddi.

(7)

Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan yr adran hon.