Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

61Absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau o awdurdodau lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 24 (absenoldeb mamolaeth)—

(a)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mamolaeth mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth.;

(b)hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(3)Yn adran 25 (absenoldeb newydd-anedig), hepgorer—

(a)is-adran (4);

(b)is-adran (6);

(c)is-adran (9);

(d)yn is-adran (10), y diffiniad o “wythnos”.

(4)Yn adran 26 (absenoldeb mabwysiadydd), hepgorer is-adran (3).

(5)Yn adran 27 (absenoldeb mabwysiadu newydd), hepgorer—

(a)is-adran (4);

(b)is-adran (6);

(c)is-adrannau (9) a (10).

(6)Yn adran 28 (absenoldeb rhiant), hepgorer is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 61 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(d)