RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL
Hawlogaeth aelodau i rannu swydd ac i absenoldeb teuluol
60Rhannu swydd: swyddi nad ydynt yn swyddi gweithrediaeth o fewn prif gynghorau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddiben hwyluso neu alluogi rhannu swydd o fewn prif gyngor.
(2)
At ddibenion yr adran hon, ystyr “swydd o fewn prif gyngor” yw—
(a)
cadeirydd prif gyngor (gweler adran 22 o Ddeddf 1972);
(b)
is-gadeirydd prif gyngor (gweler adran 24 o’r Ddeddf honno);
(c)
aelod llywyddol o brif gyngor (gweler adran 24A o’r Ddeddf honno);
(d)
dirprwy aelod llywyddol o brif gyngor (gweler adran 24B o’r Ddeddf honno);
(e)
cadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o brif gyngor;
(f)
is-gadeirydd neu ddirprwy gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o brif gyngor;
(g)
dirprwy faer o fewn gweithrediaeth maer a chabinet (gweler Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (trefniadau gweithrediaeth)).
(3)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau hwyluso neu alluogi rhannu swydd o fewn prif gyngor (gan gynnwys drwy ddiwygio rheolau sefydlog ac offerynnau eraill);
(b)
gwneud darpariaeth ynglŷn â phenodi, ethol neu enwebu person i rannu swydd o fewn prif gyngor;
(c)
gwneud darpariaeth ynglŷn ag arfer swyddogaethau swydd o fewn prif gyngor a rennir;
(d)
gwneud darpariaeth ynglŷn â phleidleisio a chworwm pan rennir swydd o fewn prif gyngor.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt), ddatgymhwyso, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(5)
Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).
(6)
Yn is-adran (2), mae cyfeiriad at bwyllgor neu is-bwyllgor yn cynnwys cyfeiriad at gyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor.