RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Gweithrediaethau prif gynghorau

58Rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth

Mae Atodlen 7 yn darparu ar gyfer diwygiadau i Ddeddf 2000 er mwyn gwneud darpariaeth—

(a)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys yn eu trefniadau gweithrediaeth ddarpariaeth sy’n galluogi dau gynghorydd neu ragor i rannu swydd ar weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd gweithrediaeth,

(b)

sy’n newid uchafswm yr aelodau o weithrediaeth pan fydd aelodau o’r weithrediaeth yn rhannu swydd, ac

(c)

ynglŷn â phleidleisio a chworwm pan fo aelodau o weithrediaeth yn rhannu swydd.