Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

58Rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Mae Atodlen 7 yn darparu ar gyfer diwygiadau i Ddeddf 2000 er mwyn gwneud darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys yn eu trefniadau gweithrediaeth ddarpariaeth sy’n galluogi dau gynghorydd neu ragor i rannu swydd ar weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd gweithrediaeth,

(b)sy’n newid uchafswm yr aelodau o weithrediaeth pan fydd aelodau o’r weithrediaeth yn rhannu swydd, ac

(c)ynglŷn â phleidleisio a chworwm pan fo aelodau o weithrediaeth yn rhannu swydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 58 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(k)