RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Prif weithredwyr

55Disodli cyfeiriadau at “cyflog” yn adran 143A o Fesur 2011

(1)

Mae adran 143A o Fesur 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adrannau (1), (3), (3A), (3B), (5A) a (5B), yn lle “cyflog”, “chyflog” neu “gyflog”, yn ôl y digwydd, ym mhob lle y maent yn digwydd, rhodder “cydnabyddiaeth ariannol”, “chydnabyddiaeth ariannol” neu “gydnabyddiaeth ariannol”, yn ôl y digwydd.

(3)

Yn is-adran (3), yn lle “gyflogau” rhodder “gydnabyddiaeth ariannol”.

(4)

Yn is-adran (3A), yn lle “daladwy” rhodder “cael ei darparu”.

(5)

Yn is-adran (5B), yn lle “talu” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “darparu”;

(6)

Yn is-adran (7)—

(a)

hepgorer y diffiniad o “cyflog”, a

(b)

yn y lle priodol mewnosoder—

““mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr ystyr a roddir i “remuneration” yn adran 43 o Ddeddf Lleoliaeth 2011;”.

(7)

Yn y pennawd, yn lle “chyflogau” rhodder “chydnabyddiaeth ariannol”.

(8)

Yn Neddf 1972, yn adran 112(2A) (penodi staff) yn lle “salaries” rhodder “remuneration”.