RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Prif weithredwyr

54Prif weithredwyr

(1)

Rhaid i brif gyngor benodi prif weithredwr.

(2)

Rhaid i brif weithredwr prif gyngor—

(a)

adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir yn is-adran (3), a

(b)

pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyngor yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.

(3)

Y materion yw—

(a)

y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyngor yn arfer ei wahanol swyddogaethau;

(b)

trefniadau’r cyngor mewn perthynas ag—

(i)

cynllunio ariannol,

(ii)

rheoli asedau, a

(iii)

rheoli risg;

(c)

nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyngor er mwyn arfer ei swyddogaethau;

(d)

trefniadaeth staff y cyngor;

(e)

penodi staff y cyngor;

(f)

y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyngor (gan gynnwys trefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu).

(4)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion is-adran (2)(b), rhaid i brif weithredwr prif gyngor drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at holl aelodau’r cyngor.

(5)

Rhaid i brif gyngor ystyried adroddiad a wnaed o dan is-adran (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at aelodau’r cyngor am y tro cyntaf; ac nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan yr is-adran hon.

(6)

Rhaid i brif gyngor ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan yr adran hon.

(7)

Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.