RHAN 4GWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Trosolwg o’r Rhan

53Trosolwg

Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth—

(a)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr (yn hytrach na dynodi pennaeth gwasanaeth taledig), y bydd ei swyddogaethau yn cynnwys dyletswyddau a osodir o dan y Rhan hon;

F1(b)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)

ar gyfer penodi cynorthwywyr gweithrediaethau prif gynghorau;

(d)

ynglŷn â rhannu swydd mewn swyddi penodol o fewn prif gynghorau;

(e)

ar gyfer dyroddi canllawiau, gan gynnwys i feiri etholedig ac arweinyddion gweithrediaeth, ar gydraddoldeb ac amrywiaeth;

(f)

ynglŷn â hawlogaeth aelodau o awdurdodau lleol i gael gwahanol fathau o absenoldeb teuluol;

(g)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i arweinyddion grwpiau gwleidyddol gymryd camau i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o’u grwpiau, a chydweithredu â phwyllgorau safonau;

(h)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau safonau lunio adroddiadau blynyddol ar y modd y maent yn arfer eu swyddogaethau;

(i)

sy’n diwygio Deddf 2000 a Deddfau eraill er mwyn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymddygiad aelodau llywodraeth leol;

(j)

ynglŷn â darparu gwybodaeth benodol i bwyllgorau trosolwg a chraffu;

(k)

sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu;

(l)

sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned wneud cynlluniau hyfforddi.