RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 5ADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYNGHORAU CYMUNED

52Adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymuned

(1)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i gyngor cymuned lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ynglŷn â blaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau’r cyngor yn ystod y flwyddyn honno.

(2)

Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag adroddiadau blynyddol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaeth cyngor cymuned o benderfynu ar gynnwys adroddiad blynyddol.