RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL
PENNOD 4CYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL
50Rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a chyhoeddi gwybodaeth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac sy’n ymwneud â chynnal y cyfarfodydd hynny.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynglŷn ag—
(a)
llunio hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;
(b)
cyhoeddi a dosbarthu’r hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(c)
cynnwys yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(d)
hawliau i gael mynediad at yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;
(e)
cadw dogfennau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;
(f)
trefniadau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;
(g)
cofnodi penderfyniadau a wneir yn y cyfarfodydd hynny.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi gan awdurdodau lleol, ac mewn cysylltiad â chyhoeddi gan awdurdodau lleol, wybodaeth sy’n nodi manylion ynglŷn ag—
(a)
aelodau o’r awdurdod a’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau;
(b)
hawliau i fynychu cyfarfodydd awdurdod lleol a chael mynediad at ddogfennau;
(c)
arfer pwerau awdurdod lleol gan ei swyddogion,
a gwneud darpariaeth ar gyfer hawliau i gael mynediad at yr wybodaeth honno, ac mewn cysylltiad â hynny.
(4)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(5)
Yn yr adran hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
(a)
prif gyngor;
(b)
cyngor cymuned;
(c)
awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;
(d)
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(e)
cyd-fwrdd—
- (i)
a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a
- (ii)
sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor;
(f)
awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);
ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—
(a)
awdurdod lleol;
(b)
pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;
(c)
cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;
(d)
pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c).