RHAN 1ETHOLIADAU
Systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau
5Dwy system bleidleisio
(1)
Mae dwy system ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidleisiau mewn etholiadau a ymleddir—
(a)
system mwyafrif syml, a
(b)
system pleidlais sengl drosglwyddadwy.
(2)
Gweler y rheolau etholiadau lleol am ddarpariaeth ynglŷn â sut y mae’r naill system a’r llall yn gweithio.
(3)
Gweler adrannau 7 i 9 am ddarpariaeth ynglŷn â pha system sy’n gymwys i gyngor a sut y caiff y system sy’n gymwys i gyngor ei newid.
(4)
Yn y Rhan hon, ystyr “rheolau etholiadau lleol” yw—
(a)
rheolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983 (a fewnosodir gan adran 13(3));
(b)
rheolau a wneir o dan adran 36 o Ddeddf 1983 sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 13(4).