RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 4CYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL

47Mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol

(1)

Rhaid i awdurdod lleol wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau y gellir cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall—

(a)

sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd, a

(b)

sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (2).

(2)

Yr amodau yw bod y cyfarpar neu’r cyfleuster arall yn galluogi personau—

(a)

yn achos cyfarfodydd awdurdod lleol nad ydynt yn dod o fewn paragraff (b), i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio), a

(b)

yn achos cyfarfodydd prif gyngor y mae’n ofynnol eu darlledu o dan adran 46 (darllediadau electronig), neu unrhyw gyfarfodydd awdurdod lleol eraill y mae’n ofynnol iddynt gael eu darlledu gan reoliadau a wneir o dan yr adran honno, i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd.

(3)

Yn achos cyfarfodydd cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor, rhaid i’r awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau o dan is-adran (1) ar y cyd.

(4)

Os yw awdurdod lleol yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

(5)

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(6)

Yn yr adran hon—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

prif gyngor;

(b)

F1cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)

cyngor cymuned;

(d)

awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(e)

awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)

awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);

ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—

(a)

awdurdod lleol;

(b)

pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;

(c)

cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;

(d)

pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c),

ac, er mwyn osgoi amheuaeth, mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir gan bwyllgor trwyddedu prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p. 17) neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan bwyllgor trwyddedu.

(7)

Mewn perthynas â chyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at—

(a)

y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol, yn bresennol ynddo neu’n ymddangos ger ei fron, mae’r cyfeiriad hwnnw yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir yn is-adran (1), mynychu, bod yn bresennol neu ymddangos drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw;

(b)

y lle y mae cyfarfod awdurdod lleol i’w gynnal, nid yw’r cyfeiriad hwnnw i’w ddarllen fel pe bai wedi ei gyfyngu i un lleoliad ffisegol.

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)

ychwanegu at yr amodau yn is-adran (2), eu diwygio neu eu hepgor;

(b)

ychwanegu at y diffiniad o “awdurdod lleol” yn is-adran (6) cyd-fwrdd—

(i)

a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

(ii)

sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

(9)

Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.