RHAN 3LL+CHYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 2LL+CCYFRANOGIAD Y CYHOEDD PAN FO PRIF GYNGHORAU YN GWNEUD PENDERFYNIADAU

Dyletswydd ar brif gynghorau i annog cyfranogiad o fewn llywodraeth leolLL+C

41Strategaeth cyfranogiad y cyhoedd: ymgynghori ac adolyguLL+C

(1)Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd gyntaf prif gyngor gael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adran 40 ddod i rym.

(2)Wrth lunio’r strategaeth honno rhaid i’r cyngor ymgynghori ag—

(a)pobl leol, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Mewn perthynas â phrif gyngor—

(a)rhaid iddo adolygu ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, a

(b)caiff adolygu ei strategaeth ar unrhyw adeg arall.

(4)Wrth gynnal adolygiad o strategaeth cyfranogiad y cyhoedd o dan is-adran (3)(a) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—

(a)pobl leol, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)Yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3) caiff prif gyngor ddiwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, neu roi strategaeth newydd yn ei lle.

(6)Ond cyn diwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu roi un newydd yn ei lle yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3)(b) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—

(a)pobl leol, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(7)Os yw prif gyngor yn diwygio strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu’n rhoi un newydd yn ei lle, rhaid iddo gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig neu’r strategaeth newydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 41 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)