RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 2CYFRANOGIAD Y CYHOEDD PAN FO PRIF GYNGHORAU YN GWNEUD PENDERFYNIADAU

Dyletswydd ar brif gynghorau i annog cyfranogiad o fewn llywodraeth leol

41Strategaeth cyfranogiad y cyhoedd: ymgynghori ac adolygu

(1)

Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd gyntaf prif gyngor gael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adran 40 ddod i rym.

(2)

Wrth lunio’r strategaeth honno rhaid i’r cyngor ymgynghori ag—

(a)

pobl leol, a

(b)

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)

Mewn perthynas â phrif gyngor—

(a)

rhaid iddo adolygu ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, a

(b)

caiff adolygu ei strategaeth ar unrhyw adeg arall.

(4)

Wrth gynnal adolygiad o strategaeth cyfranogiad y cyhoedd o dan is-adran (3)(a) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—

(a)

pobl leol, a

(b)

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)

Yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3) caiff prif gyngor ddiwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, neu roi strategaeth newydd yn ei lle.

(6)

Ond cyn diwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu roi un newydd yn ei lle yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3)(b) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—

(a)

pobl leol, a

(b)

unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(7)

Os yw prif gyngor yn diwygio strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu’n rhoi un newydd yn ei lle, rhaid iddo gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig neu’r strategaeth newydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.