RHAN 3HYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 2CYFRANOGIAD Y CYHOEDD PAN FO PRIF GYNGHORAU YN GWNEUD PENDERFYNIADAU

Dyletswydd ar brif gynghorau i annog cyfranogiad o fewn llywodraeth leol

40Strategaeth ar annog cyfranogiad

(1)

Rhaid i brif gyngor lunio a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth cyfranogiad y cyhoedd”) sy’n pennu sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 39.

(2)

Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r canlynol, yn benodol—

(a)

dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o swyddogaethau’r prif gyngor;

(b)

dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o’r modd y deuir yn aelod o’r prif gyngor, a’r hyn y mae aelodaeth yn ei olygu;

(c)

dulliau o’i gwneud yn fwy hwylus i bobl leol gael gwybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, gan y prif gyngor;

(d)

dulliau o hybu a hwyluso prosesau lle gall pobl leol gyflwyno sylwadau i’r prif gyngor am benderfyniad cyn, ac ar ôl, iddo gael ei wneud;

(e)

y trefniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, at ddiben y ddyletswydd ar y cyngor yn adran 62 o Fesur 2011 (dwyn safbwyntiau’r cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu);

(f)

dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith aelodau o’r prif gyngor o fanteision defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.

(3)

Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r modd y mae prif gyngor yn bwriadu cydymffurfio â dyletswydd a osodir gan unrhyw ddeddfiad.