(1)Rhaid i brif gyngor annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau a wneir mewn partneriaeth neu ar y cyd ag unrhyw berson arall).
(2)Yn is-adran (1), mae cyfeiriad at wneud penderfyniadau yn cynnwys cyfeiriad at wneud penderfyniadau gan berson mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a ddirprwywyd i’r person hwnnw gan brif gyngor.
[F1(3)Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor ac mae cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at brif gyngor i’w dehongli yn unol â hynny. ]
Diwygiadau Testunol
F1A. 39(3) wedi ei fewnosod (6.5.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(3)(d), 32
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I2A. 39 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)