RHAN 2PŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 2CYNGHORAU CYMUNED CYMWYS

35Pŵer i ddiwygio neu addasu’r Bennod hon

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Bennod hon at ddibenion—

(a)

ychwanegu amod cymhwystra,

(b)

tynnu ymaith amod cymhwystra,

(c)

newid unrhyw un neu ragor o’r amodau cymhwystra, neu

(d)

gwneud darpariaeth i gyngor cymuned beidio â bod yn gyngor cymuned cymwys (o dan amgylchiadau ac eithrio’r rheini a bennir yn y Bennod hon).

(2)

Cyn gwneud rheoliadau o dan baragraffau (a) i (c) o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu addasu’r Bennod hon at ddibenion darparu, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Bennod hon yn dod i rym—

(a)

nad yw amod cymhwystra yn gymwys;

(b)

bod amod cymhwystra yn gymwys gydag addasiadau.