Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

35Pŵer i ddiwygio neu addasu’r Bennod honLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Bennod hon at ddibenion—

(a)ychwanegu amod cymhwystra,

(b)tynnu ymaith amod cymhwystra,

(c)newid unrhyw un neu ragor o’r amodau cymhwystra, neu

(d)gwneud darpariaeth i gyngor cymuned beidio â bod yn gyngor cymuned cymwys (o dan amgylchiadau ac eithrio’r rheini a bennir yn y Bennod hon).

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan baragraffau (a) i (c) o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu addasu’r Bennod hon at ddibenion darparu, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Bennod hon yn dod i rym—

(a)nad yw amod cymhwystra yn gymwys;

(b)bod amod cymhwystra yn gymwys gydag addasiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 35 mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(c)