Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

32Peidio â bod yn gyngor cymuned cymwysLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff cyngor cymuned cymwys basio penderfyniad mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor (gan gynnwys cyfarfod blynyddol) ei fod yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys.

(2)Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad o dan is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod y cafodd y penderfyniad ei basio ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 32 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)