RHAN 2LL+CPŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 2LL+CCYNGHORAU CYMUNED CYMWYS

31Parhau i fod yn gyngor cymuned cymwysLL+C

(1)Os yw cyngor cymuned cymwys yn dymuno parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys rhaid iddo—

(a)ar adeg pob cyfarfod blynyddol sy’n dilyn pasio’r penderfyniad yn unol ag adran 30, fodloni’r amodau cymhwystra, a

(b)ym mhob cyfarfod blynyddol o’r fath, basio penderfyniad ei fod yn parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys.

(2)Mae cyngor cymuned cymwys nad yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod blynyddol o dan sylw.

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 32, ystyr “cyfarfod blynyddol”, mewn perthynas â chyngor cymuned cymwys, yw cyfarfod o’r cyngor a gynhelir o dan baragraff 23 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 31 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)