RHAN 2PŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL
PENNOD 2CYNGHORAU CYMUNED CYMWYS
30Dod yn gyngor cymuned cymwys
(1)
Caiff cyngor cymuned sy’n bodloni pob un o’r amodau a nodir yn is-adrannau (2) i (4) (“yr amodau cymhwystra”) ddod yn gyngor cymuned cymwys at ddibenion Pennod 1 drwy basio penderfyniad, mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor, ei fod yn gyngor cymuned cymwys.
(2)
Yr amod cyntaf yw y datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm cynghorwyr y cyngor cymuned wedi eu hethol (boed mewn etholiad cyffredin neu mewn is-etholiad).
(3)
Yr ail amod yw bod clerc y cyngor yn dal cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)
Y trydydd amod yw—
(a)
bod barn ddiweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor—
(i)
yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a
(ii)
yn farn y mae’r cyngor wedi ei chael yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y bydd y cyngor (os yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1)) yn dod yn gyngor cymuned cymwys, a
(b)
bod barn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor a oedd yn union ragflaenu’r farn a grybwyllir ym mharagraff (a) hefyd yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
(5)
At ddibenion is-adran (4) ac adran 34—
(a)
ystyr barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yw barn a ddarperir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23), ar ôl cynnal archwiliad o gyfrifon cyngor cymuned ar gyfer blwyddyn ariannol, a
(b)
mae barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod os nad yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn y farn, wedi datgan mewn unrhyw fodd nad yw’n fodlon o ran y materion a nodir yn adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(6)
Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn dod yn gyngor cymuned cymwys pan fo’n pasio’r penderfyniad.