Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

30Dod yn gyngor cymuned cymwysLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff cyngor cymuned sy’n bodloni pob un o’r amodau a nodir yn is-adrannau (2) i (4) (“yr amodau cymhwystra”) ddod yn gyngor cymuned cymwys at ddibenion Pennod 1 drwy basio penderfyniad, mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor, ei fod yn gyngor cymuned cymwys.

(2)Yr amod cyntaf yw y datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm cynghorwyr y cyngor cymuned wedi eu hethol (boed mewn etholiad cyffredin neu mewn is-etholiad).

(3)Yr ail amod yw bod clerc y cyngor yn dal cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)Y trydydd amod yw—

(a)bod barn ddiweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor—

(i)yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a

(ii)yn farn y mae’r cyngor wedi ei chael yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y bydd y cyngor (os yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1)) yn dod yn gyngor cymuned cymwys, a

(b)bod barn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor a oedd yn union ragflaenu’r farn a grybwyllir ym mharagraff (a) hefyd yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(5)At ddibenion is-adran (4) ac adran 34—

(a)ystyr barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yw barn a ddarperir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23), ar ôl cynnal archwiliad o gyfrifon cyngor cymuned ar gyfer blwyddyn ariannol, a

(b)mae barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod os nad yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn y farn, wedi datgan mewn unrhyw fodd nad yw’n fodlon o ran y materion a nodir yn adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(6)Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn dod yn gyngor cymuned cymwys pan fo’n pasio’r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 30(1)(2)(4)-(6) mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(a)

I3A. 30(3) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(b)