RHAN 1ETHOLIADAU

Yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol

3Darpariaeth drosiannol

(1)

Er gwaethaf y ffaith bod y diwygiadau a wneir gan y darpariaethau a grybwyllir yn is-adran (2) yn dod i rym yn rhinwedd adran 175(3), nid ydynt ond yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad llywodraeth leol neu refferendwm lleol at ddibenion—

(a)

etholiad llywodraeth leol pan gynhelir y bleidlais ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny;

(b)

refferendwm lleol a gynhelir ar 5 Mai 2022 neu ar ôl hynny.

(2)

Y darpariaethau yw—

(a)

adran 2(1) a (3);

(b)

adran 22;

(c)

paragraffau 2(12), 8(3)(b), 15 ac 19 o Atodlen 2.

(3)

Yn is-adran (1), ystyr “refferendwm lleol” yw refferendwm a gynhelir o dan—

(a)

adran 27 o Ddeddf 2000 neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wneir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

(b)

adran 40 o Fesur 2011.