RHAN 2PŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL
PENNOD 1Y PŴER CYFFREDINOL
26Cyfyngiadau ar godi ffi wrth arfer y pŵer cyffredinol
(1)
Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol godi ffi am ddarparu gwasanaeth i berson oni fo’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.
(2)
Yr amod cyntaf yw nad yw’r gwasanaeth yn un y mae unrhyw ddeddfiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod ei ddarparu i’r person.
(3)
Yr ail amod yw bod y person wedi cytuno i’r gwasanaeth gael ei ddarparu.
(4)
Ac eithrio mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir at ddiben masnachol, i’r graddau y bo’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i awdurdod lleol cymhwysol godi ffi am ddarparu gwasanaeth, mae’r pŵer yn ddarostyngedig i ddyletswydd i sicrhau nad yw’r incwm o ffioedd a osodir oddi tano, o gymryd un flwyddyn ariannol gyda’r llall, yn fwy na chost darparu’r gwasanaeth.
(5)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4) yn gymwys ar wahân mewn perthynas â phob math o wasanaeth.
(6)
Yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (4), wrth arfer y pŵer a roddir gan y pŵer cyffredinol i godi ffi am ddarparu gwasanaeth, caiff awdurdod lleol cymhwysol bennu ei ffioedd fel y mae’n ystyried bod hynny’n briodol, ac ymysg pethau eraill caiff—
(a)
codi ffi ar rai personau yn unig am ddarparu gwasanaeth;
(b)
codi symiau gwahanol o ffi ar bersonau gwahanol, neu bersonau o ddisgrifiadau gwahanol, am ddarparu gwasanaeth.