RHAN 2PŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 1Y PŴER CYFFREDINOL

25Terfynau’r pŵer cyffredinol

(1)

Nid yw’r pŵer cyffredinol yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad cyn cychwyn.

(2)

Nid yw’r pŵer cyffredinol ychwaith yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad ar ôl cychwyn y mynegir ei fod yn gymwys—

(a)

i’r pŵer cyffredinol,

(b)

i holl bwerau’r awdurdod, neu

(c)

i holl bwerau’r awdurdod ond gydag eithriadau nad ydynt yn cynnwys y pŵer cyffredinol.

(3)

Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i wneud nac i wneud newidiadau i—

(a)

trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 6 o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol);

(b)

trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 (trefniadau mewn cysylltiad â gweithrediaethau etc.);

(c)

trefniadau contractio allan, neu unrhyw drefniadau eraill nad ydynt yn drefniadau o fewn paragraff (a) neu (b), sy’n awdurdodi person i arfer swyddogaeth awdurdod lleol cymhwysol.

(4)

Yn yr adran hon—

ystyr “cyfyngiad ar ôl cychwyn” (“post-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—

(a)

mewn Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cael ei phasio ar ôl y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon;

(b)

mewn offeryn—

  1. (i)

    a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a

  2. (ii)

    sy’n dod i rym ar y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau, neu wedi hynny;

ystyr “cyfyngiad cyn cychwyn” (“pre-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—

(a)

yn y Ddeddf hon;

(b)

mewn unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol arall sy’n cael ei phasio cyn y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon, neu ar yr un diwrnod;

(c)

mewn offeryn—

  1. (i)

    a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a

  2. (ii)

    sy’n dod i rym cyn y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau.

(5)

At ddibenion is-adran (1), mae adran 111(3) o Ddeddf 1972 (nid yw pwerau atodol awdurdodau lleol yn cynnwys pŵer i godi arian) i’w diystyru.