25Terfynau’r pŵer cyffredinolLL+C
(1)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad cyn cychwyn.
(2)Nid yw’r pŵer cyffredinol ychwaith yn galluogi awdurdod lleol cymhwysol i wneud unrhyw beth nad yw’r awdurdod yn gallu ei wneud yn rhinwedd cyfyngiad ar ôl cychwyn y mynegir ei fod yn gymwys—
(a)i’r pŵer cyffredinol,
(b)i holl bwerau’r awdurdod, neu
(c)i holl bwerau’r awdurdod ond gydag eithriadau nad ydynt yn cynnwys y pŵer cyffredinol.
(3)Nid yw’r pŵer cyffredinol yn rhoi pŵer i wneud nac i wneud newidiadau i—
(a)trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 6 o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol);
(b)trefniadau o fath a wneir, neu y caniateir eu gwneud, gan neu o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 (trefniadau mewn cysylltiad â gweithrediaethau etc.);
(c)trefniadau contractio allan, neu unrhyw drefniadau eraill nad ydynt yn drefniadau o fewn paragraff (a) neu (b), sy’n awdurdodi person i arfer swyddogaeth awdurdod lleol cymhwysol.
(4)Yn yr adran hon—
ystyr “cyfyngiad ar ôl cychwyn” (“post-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—
(a)mewn Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cael ei phasio ar ôl y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon;
(b)mewn offeryn—
(i)a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a
(ii)sy’n dod i rym ar y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau, neu wedi hynny;
ystyr “cyfyngiad cyn cychwyn” (“pre-commencement limitation”) yw gwaharddiad, terfyn neu gyfyngiad arall a osodir yn benodol gan ddarpariaeth—
(a)yn y Ddeddf hon;
(b)mewn unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol arall sy’n cael ei phasio cyn y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf hon, neu ar yr un diwrnod;
(c)mewn offeryn—
(i)a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys y Ddeddf hon), a
(ii)sy’n dod i rym cyn y diwrnod y mae adran 24 yn dod i rym mewn perthynas â phrif gynghorau.
(5)At ddibenion is-adran (1), mae adran 111(3) o Ddeddf 1972 (nid yw pwerau atodol awdurdodau lleol yn cynnwys pŵer i godi arian) i’w diystyru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)
I2A. 25 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)