Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

24Pŵer cymhwysedd cyffredinol awdurdod lleolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae gan awdurdod lleol cymhwysol bŵer i wneud unrhyw beth y caiff unigolion yn gyffredinol ei wneud, hyd yn oed os yw’r peth hwnnw, o ran ei natur neu ei raddfa neu fel arall—

(a)yn wahanol i unrhyw beth y caiff awdurdod lleol cymhwysol ei wneud ar wahân i’r adran hon;

(b)yn wahanol i unrhyw beth y caiff cyrff cyhoeddus eraill ei wneud.

(2)Pan fo is-adran (1) yn rhoi pŵer i awdurdod wneud rhywbeth, mae’n rhoi pŵer iddo ei wneud mewn unrhyw fodd o gwbl, gan gynnwys—

(a)pŵer i’w wneud yn unrhyw le yng Nghymru neu yn rhywle arall;

(b)pŵer i’w wneud at ddiben masnachol neu fel arall am ffi, neu heb fod am ffi;

(c)pŵer i’w wneud er budd yr awdurdod, ei ardal neu bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal, neu fel arall.

(3)Nid yw cyffredinolrwydd y pŵer a roddir i awdurdod lleol cymhwysol gan is-adran (1) wedi ei gyfyngu gan fodolaeth unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod; ac nid yw unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod wedi ei gyfyngu gan fodolaeth y pŵer cyffredinol.

(4)At ddibenion y Bennod hon, mae pob un o’r canlynol yn awdurdod lleol cymhwysol—

(a)prif gyngor;

(b)cyngor cymuned cymwys (gweler Pennod 2 ynglŷn â hynny).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “unigolyn” yw unigolyn sy’n meddu ar alluedd llawn.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at y pŵer cyffredinol yn gyfeiriadau at y pŵer a roddir gan is-adran (1).

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adrannau 25 i 27 ac i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 28(3) neu (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 24 mewn grym ar 1.11.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 4(a)