RHAN 10CYFFREDINOL
175Dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adran 50;
(b)
adran 51;
(c)
paragraff 17(4) o Atodlen 4 (ac adran 49 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraff hwnnw);
(d)
adran 61;
(e)
Rhan 5;
(f)
Rhan 7 (gan gynnwys Atodlen 1), yn ddarostyngedig i is-adran (2);
(g)
adran 159, ac eithrio—
(i)
is-adran (4)(b) ac (c);
(ii)
yn nhabl 2 yn is-adran (5), y cofnod sy’n ymwneud â swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Bennod 1 o Ran 6;
(iii)
yn y tabl hwnnw, yn y cofnod sy’n ymwneud â swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon, y geiriau o “Pennod 1” hyd “ardaloedd)”;
(h)
adran 160;
(i)
adran 166(2)(b)(iii) ac (c) a (3)(b);
(j)
y Rhan hon;
(k)
paragraff 2(2) o Atodlen 2;
(l)
paragraff 16(3) o Atodlen 2.
(2)
Nid yw is-adran (1)(f) yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 7 (sy’n dod i rym yn unol ag is-adran (6) neu (7) o’r adran hon)—
(a)
Pennod 2;
(b)
pob achos yn y Rhan, ac eithrio yn adran 147(3), pan fo’r termau a ganlyn yn digwydd—
(i)
“neu reoliadau ailstrwythuro”, “a rheoliadau ailstrwythuro”, “neu reoliadau ailstrwythuro penodol” a “, rheoliadau ailstrwythuro”;
(ii)
“neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro”, “neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro”, “neu’r cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro”, “neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro”, “a chynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro”, a “neu gynghorau gwahanol sy’n cael eu hailstrwythuro”;
(c)
yn adran 138—
(i)
is-adran (1)(b);
(ii)
is-adran (3);
(d)
yn adran 139—
(i)
is-adran (2);
(ii)
yn is-adran (3), y geiriau “neu (2)”;
(e)
yn adran 140—
(i)
yn is-adran (1)(a), y geiriau “i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu”;
(ii)
is-adran (2);
(f)
yn adran 141—
(i)
yn is-adran (1)(a), y geiriau “i brif gyngor arall (“cyngor B”) neu”;
(ii)
yn is-adran (2)(a) y geiriau “(gan gynnwys cyngor B)”;
(iii)
yn is-adran (2)(c), y geiriau “os yw prif ardal newydd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o ardal cyngor A i’w chyfansoddi,”;
(iv)
is-adran (3);
(g)
adran 145(7)(b);
(h)
adran 148;
(i)
yn adran 149—
(i)
y diffiniadau o “cais i ddiddymu”, “cyngor sydd o dan ystyriaeth” a “cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro”;
(ii)
yn y naill a’r llall o’r diffiniadau o “cyngor cysgodol” a “dyddiad trosglwyddo”, paragraff (b);
(j)
adran 150(1)(a) a (b)(ii), (iv) a (v) a (2)(b) ac (c);
(k)
yn Atodlen 1—
(i)
pob cyfeiriad at “11 neu”;
(ii)
ym mharagraff 1(3), y geiriau “11(3) neu”;
(iii)
paragraffau 2(2), 6(2)(a) a 12(1)(a), (2) a (4)(a);
(iv)
paragraff 2(4) a (5);
(l)
yn Atodlen 11—
(i)
Rhan 2;
(ii)
ym mharagraff 7(3)(a), y geiriau “neu yn rhinwedd paragraff 4”;
(iii)
paragraff 7(3)(c);
(m)
yn Atodlen 12—
(i)
ym mharagraff 1(1), y geiriau “neu ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6)”;
(ii)
ym mharagraff 7(6), yn y diffiniad o “y dyddiad perthnasol”, paragraff (b).
(3)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adran 1;
(b)
adran 2(1) a (3) (yn ddarostyngedig i adran 3);
(c)
adrannau 3 a 4;
(d)
adrannau 13 i 17;
(e)
adran 22 (yn ddarostyngedig i adran 3);
(f)
adran 23 ac Atodlen 2—
(i)
ac eithrio paragraffau 1(3) i (5), 1(7), 1(9), 2(2), 2(9) a (10), 2(18)(b), 5, 13, 16(2) ac 16(3), a
(ii)
yn ddarostyngedig i adran 3 mewn cysylltiad â pharagraffau 2(12), 8(3)(b), 15 a 19;
(g)
adran 38;
(h)
adran 53;
(i)
adran 55;
(j)
adran 60;
(k)
adran 94;
(l)
adran 152;
(m)
adran 154;
(n)
adran 155;
(o)
adran 156;
(p)
adran 158;
(q)
adran 165 ac Atodlen 14;
(r)
adran 166, ac eithrio is-adrannau (2)(b)(iii) ac (c) a (3)(b) (gweler is-adran (1) o’r adran hon ynglŷn â’r rhain);
(s)
adran 167;
(t)
adran 168(1)(g)(i) a (2).
(4)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 1 Ebrill 2021—
(a)
adran 151;
(b)
adran 153;
(c)
adran 157.
(5)
Daw adran 2(2) i rym ar 5 Mai 2022.
(6)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 6 Mai 2022—
(a)
adrannau 5 i 12;
(b)
y darpariaethau yn Atodlen 1 a grybwyllir yn is-adran (2)(k)(i) i (iii) o’r adran hon;
(c)
yn Atodlen 2, paragraffau 2(9), (10) a (18)(b).
(7)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(8)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (7)—
(a)
gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;
(b)
pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.