RHAN 10LL+CCYFFREDINOL

173Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)darpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 173 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(j)