RHAN 10CYFFREDINOL
173Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—
(a)
darpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol;
(b)
darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.