RHAN 9LL+CAMRYWIOL

Awdurdodau tân ac achubLL+C

168Awdurdodau tân ac achub: datgymhwyso Mesur 2009LL+C

(1)Ym Mesur 2009 hepgorer—

(a)adran 1(c) (ystyr “awdurdod gwella Cymreig”);

(b)adran 4(3)(c) a (4)(b) (agweddau ar wella);

(c)adran 10 (pwerau dirprwyo);

(d)adran 11(1)(d) (ystyr “pwerau cydlafurio”);

(e)adran 16(2)(c) (ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”);

(f)yn adran 35 (dehongli Rhan 1), y diffiniad o “awdurdod tân ac achub Cymreig”;

(g)yn Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol: Rhan 1)—

(i)paragraff 27;

(ii)paragraffau 32 a 33, a’r pennawd sy’n eu rhagflaenu.

(2)Yn adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) (pŵer i godi ffi am wasanaethau disgresiynol), yn is-adran (9)—

(a)yn lle paragraff (aa) rhodder—

(aa)a county council or county borough council in Wales;;

(b)ar ôl paragraff (ab) mewnosoder—

(ac)a National Park authority for a National Park in Wales;.

(3)Yn adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) (gwerth gorau), yn lle is-adrannau (3) i (5) rhodder—

(3)This section does not apply to a fire and rescue authority in Wales.>

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 168(1)(g)(i)(2) mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(t)