RHAN 9AMRYWIOL

Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol

164Cyfarwyddydau o dan adran 48 o Ddeddf 2013

(1)

Mae adran 48 o Ddeddf 2013 (cyfarwyddydau a chanllawiau ynghylch adolygiadau o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-adran (2)—

(a)

ym mharagraff (a) yn lle “(gan gynnwys, pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion iddynt, adolygiadau pellach)” rhodder “(ni waeth a fyddai gan y Comisiwn y pŵer, neu y byddai’n ddarostyngedig i ddyletswydd, o dan yr amgylchiadau, i gynnal yr adolygiad ai peidio)”;

(b)

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

“(aa)

pan fo’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion neu gynigion i Weinidogion Cymru, i gynnal adolygiad pellach o dan y Rhan hon,

(ab)

i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan y Rhan hon,”;

(c)

ym mharagraff (b) yn lle “adran 28” rhodder “y Rhan hon”.

(3)

Yn is-adran (5)—

(a)

yn y testun Saesneg, hepgorer “to” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd;

(b)

yn y testun Saesneg, ym mharagraff (a), ar y dechrau mewnosoder “to”;

(c)

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

“(aa)

i roi’r gorau i gynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31,

(ab)

i beidio â chynnal adolygiad o dan adran 25 neu 31 yn ystod cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd,”;

(d)

yn y testun Saesneg, ym mharagraff (b), ar y dechrau mewnosoder “to”.