RHAN 9LL+CAMRYWIOL

Rhannu gwybodaethLL+C

159Rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion CymruLL+C

(1)Caiff aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth, at ddibenion arfer swyddogaethau penodedig yr aelod hwnnw mewn perthynas â phrif gyngor [F1neu gyd-bwyllgor corfforedig], wneud cais bod aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth yn darparu gwybodaeth neu ddogfen.

(2)Rhaid i aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen y gwneir cais amdani o dan is-adran (1), i’r graddau—

(a)y cafwyd neu y crëwyd yr wybodaeth neu’r ddogfen gan yr aelod hwnnw wrth arfer swyddogaethau penodedig yr aelod, a

(b)ei bod yn rhesymol ymarferol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen.

(3)Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru, at ddiben arfer swyddogaeth a bennir yn is-adran (4), yn gwneud cais i aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen ac—

(a)nad yw’n ofynnol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen o dan is-adran (2) neu unrhyw ddeddfiad arall, a

(b)nad oes gan yr aelod hwnnw bŵer o dan unrhyw ddeddfiad (ac eithrio’r adran hon) i ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen,

caiff yr aelod ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen honno.

(4)Y swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (3) yw—

(a)swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau);

(b)swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu);

[F2(ba)swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig);]

(c)swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd).

(5)At ddibenion yr adran hon—

(a)mae person yn aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth os crybwyllir y person hwnnw yng ngholofn gyntaf tabl 2;

(b)swyddogaethau penodedig yr aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth yw’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr ail golofn.

TABL 2
Aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaethSwyddogaethau penodedig
Archwilydd Cyffredinol CymruSwyddogaethau o dan adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) (archwilio cyfrifon ac astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth mewn gwasanaethau)
Swyddogaethau o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (asesiadau sy’n ymwneud â’r egwyddor datblygu cynaliadwy)
Swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad prif gynghorau)
[F3Swyddogaethau o dan Bennod 1A o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig)]
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng NghymruSwyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc. prif gynghorau)
Gweinidogion CymruSwyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol prif gynghorau)
Swyddogaethau o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau), Pennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau)[F4, Pennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig]) neu Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd) o’r Ddeddf hon

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 2 er mwyn—

(a)ychwanegu cofnod;

(b)diwygio cofnod;

(c)hepgor cofnod.

(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir i dabl 2 gan reoliadau o dan is-adran (6), neu at ddibenion rhoi effaith lawn iddo.

(8)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) sy’n diwygio tabl 2, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(c)y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef;

(d)y person y mae cofnod sydd i’w hepgor yn ymwneud ag ef.

(9)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

F5(10). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 159(1)-(3)(4)(a)(6)-(10) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(g)

I2A. 159(4)(b)(c) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(e)

I3A. 159(5) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(e)