RHAN 9AMRYWIOL

Rhannu gwybodaeth

159Rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru

(1)

Caiff aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth, at ddibenion arfer swyddogaethau penodedig yr aelod hwnnw mewn perthynas â phrif gyngor, wneud cais bod aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth yn darparu gwybodaeth neu ddogfen.

(2)

Rhaid i aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen y gwneir cais amdani o dan is-adran (1), i’r graddau—

(a)

y cafwyd neu y crëwyd yr wybodaeth neu’r ddogfen gan yr aelod hwnnw wrth arfer swyddogaethau penodedig yr aelod, a

(b)

ei bod yn rhesymol ymarferol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen.

(3)

Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru, at ddiben arfer swyddogaeth a bennir yn is-adran (4), yn gwneud cais i aelod arall o’r grŵp rhannu gwybodaeth ddarparu gwybodaeth neu ddogfen ac—

(a)

nad yw’n ofynnol i’r aelod hwnnw ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen o dan is-adran (2) neu unrhyw ddeddfiad arall, a

(b)

nad oes gan yr aelod hwnnw bŵer o dan unrhyw ddeddfiad (ac eithrio’r adran hon) i ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen,

caiff yr aelod ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen honno.

(4)

Y swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (3) yw—

(a)

swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau);

(b)

swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu);

(c)

swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd).

(5)

At ddibenion yr adran hon—

(a)

mae person yn aelod o’r grŵp rhannu gwybodaeth os crybwyllir y person hwnnw yng ngholofn gyntaf tabl 2;

(b)

swyddogaethau penodedig yr aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth yw’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr ail golofn.

TABL 2

Aelodau o’r grŵp rhannu gwybodaeth

Swyddogaethau penodedig

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Swyddogaethau o dan adrannau 13 a 41 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23) (archwilio cyfrifon ac astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth mewn gwasanaethau)

Swyddogaethau o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (asesiadau sy’n ymwneud â’r egwyddor datblygu cynaliadwy)

Swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad prif gynghorau)

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) (arolygu swyddogaethau addysg etc. prif gynghorau)

Gweinidogion Cymru

Swyddogaethau o dan adran 149A ac adran 149B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (adolygiadau etc. o arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol prif gynghorau)

Swyddogaethau o dan Ran 5 (cydweithio gan brif gynghorau), Pennod 1 o Ran 6 (perfformiad prif gynghorau) neu Bennod 2 o Ran 7 (ailstrwythuro prif ardaloedd) o’r Ddeddf hon

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio tabl 2 er mwyn—

(a)

ychwanegu cofnod;

(b)

diwygio cofnod;

(c)

hepgor cofnod.

(7)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (6) ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir i dabl 2 gan reoliadau o dan is-adran (6), neu at ddibenion rhoi effaith lawn iddo.

(8)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) sy’n diwygio tabl 2, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)

unrhyw bersonau sy’n cynrychioli prif gynghorau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy;

(b)

Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(c)

y person y bydd cofnod newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud ag ef;

(d)

y person y mae cofnod sydd i’w hepgor yn ymwneud ag ef.

(9)

Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

(10)

Mae adran 33 o Fesur 2009 (rhannu gwybodaeth) yn peidio â chael effaith, ac eithrio at ddibenion rhannu gwybodaeth a dogfennau—

(a)

a gafodd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu a ddangoswyd iddo wrth arfer swyddogaethau o dan adrannau 17 i 19 o Fesur 2009, neu

(b)

at ddiben arfer y swyddogaethau hynny gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.