RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 5ATODOL

147Darpariaeth ganlyniadol etc. arall

(1)

Caiff rheoliadau uno a rheoliadau ailstrwythuro gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn perthynas â rheoliadau uno penodol neu reoliadau ailstrwythuro penodol—

(a)

at ddibenion y rheoliadau hynny neu o ganlyniad iddynt, neu

(b)

er mwyn rhoi effaith lawn i’r rheoliadau hynny.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol, wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed—

(a)

at ddibenion rheoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, neu o ganlyniad iddynt, neu

(b)

er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.

(4)

Mae rheoliadau o dan is-adran (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.

(5)

Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—

(a)

ar gyfer trosglwyddo eiddo (tirol neu bersonol), hawliau neu atebolrwyddau (gan gynnwys atebolrwyddau troseddol, a hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â chontract cyflogaeth) o un prif gyngor i brif gyngor arall;

(b)

mewn cysylltiad â rheoli neu gadw eiddo a drosglwyddir i brif gyngor;

(c)

i achos sifil neu droseddol a gychwynnwyd gan neu yn erbyn prif gyngor gael ei barhau gan neu yn erbyn prif gyngor arall;

(d)

ar gyfer trosglwyddo staff (yn ddarostyngedig i is-adran (8)), ac ynglŷn â materion staffio eraill (gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd);

(e)

ar gyfer trin un prif gyngor at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith â phrif gyngor arall;

(f)

mewn cysylltiad ag ymddiriedolwyr siarter;

(g)

mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “preserved counties” gan adran 270(1) o Ddeddf 1972).

(6)

Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—

(a)

sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, ac ethol neu benodi aelodau o’r cyrff cyhoeddus, neu

(b)

diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu estyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro.

(7)

Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon fod ar ffurf darpariaeth—

(a)

sy’n diwygio, yn addasu, yn cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) neu’n datgymhwyso unrhyw ddeddfiad, neu

(b)

sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).

(8)

Rhaid i reoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, i drosglwyddiadau a wneir o dan y rheoliadau o dan y Rhan hon (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 ai peidio).

(9)

Mae “deddfiad” yn is-adran (7) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.

(10)

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)

drwy reoliadau, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau a wneir o dan is-adran (2) neu (3) neu reoliadau a wneir o dan y paragraff hwn;

(b)

drwy reoliadau, ddiwygio rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau a wneir o dan y paragraff hwn;

(c)

drwy reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, ddiwygio neu ddirymu rheoliadau uno, rheoliadau ailstrwythuro neu reoliadau o dan yr adran hon,

a chaiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.