RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 5ATODOL
146Canllawiau
Rhaid i’r canlynol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon (a gweler adran 123 mewn perthynas â chanllawiau ynglŷn â cheisiadau i uno)—
(a)
prif gyngor (gan gynnwys cyngor cysgodol a gweithrediaeth gysgodol);
(b)
pwyllgor pontio (gweler Atodlen 11 ynglŷn â hynny);
(c)
pwyllgor neu gorff a sefydlir o dan adran 134(2)(a) neu (b);
(d)
corff cyhoeddus—
(i)
a sefydlir gan ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau o dan adran 147(6)(a) neu (b);
(ii)
y mae darpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau o dan adran 147(6)(a) neu (b) yn ymwneud ag ef.