RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD
PENNOD 4TREFNIADAU CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AR GYFER PRIF GYNGHORAU NEWYDD
145Datganiadau ar bolisïau tâl
(1)
Rhaid i bwyllgor pontio gyhoeddi argymhellion ynglŷn â’r datganiad ar bolisïau tâl sydd i’w lunio gan y cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd.
(2)
Rhaid i’r argymhellion gael eu cyhoeddi yn ddim hwyrach na chwe wythnos cyn—
(a)
pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol etholedig, y dyddiad y mae etholiadau i’r cyngor cysgodol i’w cynnal, neu
(b)
pan fo’r cyngor cysgodol yn gyngor cysgodol dynodedig, y dyddiad y mae’r cyngor cysgodol i’w sefydlu.
(3)
Rhaid i gyngor cysgodol lunio a chymeradwyo (ac fe gaiff ddiwygio) datganiad ar bolisïau tâl yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)—
(a)
ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad ar bolisïau tâl ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a
(b)
ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf pan fydd prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd.
(4)
Yn unol â hynny, mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys; a phan fo’r darpariaethau hynny yn gymwys yn rhinwedd yr is-adran hon—
(a)
mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr Pennod 8 o Ran 1 o’r Ddeddf honno at ddibenion y darpariaethau hynny,
(b)
mae’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) i’w drin fel blwyddyn ariannol at ddibenion y darpariaethau hynny, ac
(c)
mae adran 39(5) o’r Ddeddf honno i’w darllen fel pe bai “on a website” wedi ei roi yn lle “on the authority’s website”.
(5)
Ni chaniateir i’r cyngor cysgodol benodi na dynodi unrhyw brif swyddog (o fewn yr ystyr a roddir i “chief officer” yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad ar bolisïau tâl o dan is-adran (3) wedi ei lunio a’i gymeradwyo.
F1(6)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)
Yn yr adran hon, ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir o dan Atodlen 11—
(a)
mewn perthynas â rheoliadau uno, neu
(b)
mewn perthynas â rheoliadau ailstrwythuro sy’n darparu y bydd cyngor cysgodol.