RHAN 7UNO AC AILSTRWYTHURO PRIF ARDALOEDD

PENNOD 4TREFNIADAU CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AR GYFER PRIF GYNGHORAU NEWYDD

143Adroddiadau gan y F1Comisiwn mewn perthynas â chynghorau cysgodol a phrif gynghorau newydd

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F2Rhan 5A o Ddeddf 2013 yn gymwys yn achos cyngor yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142.

(2)

Mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf o dan F3Ran 5A o Ddeddf 2013 sy’n ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd (“yr adroddiad cyntaf”)—

(a)

rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn ddim hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 142 at y diben hwnnw, a

(b)

caiff fod yn adroddiad blynyddol neu’n adroddiad atodol, yn ddarostyngedig i’r gofyniad a osodir yn rhinwedd paragraff (a) a’r gofynion o dan F4adrannau 69E(3) a 69I(1) a (2)(a) o Ddeddf 2013.

(3)

Nid yw adran F5adran 69I(2)(b) o Ddeddf 2013 (terfyn amser ar gyfer cyhoeddi) yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad cyntaf os yw’n adroddiad atodol.

(4)

Pan fo unrhyw adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) ag—

(a)

y cyngor cysgodol, neu

(b)

y prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd ac na fydd y cyngor hwnnw wedi ei sefydlu ar adeg cyhoeddi’r adroddiad,

rhaid i’r F6Comisiwn gymryd y cam a nodir yn is-adran (5).

(5)

Cyn cyhoeddi’r adroddiad o dan F7adran 69E o Ddeddf 2013 , rhaid i’r F8Comisiwn anfon drafft o’r adroddiad at y canlynol (os nad yw eisoes yn ofynnol i’r F8Comisiwn wneud hynny o dan F9adran 69G(1)(a) o Ddeddf 2013)—

(a)

y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd;

(b)

y cyngor cysgodol (os caiff ei sefydlu);

(c)

y personau (os oes rhai) a bennir at y diben hwnnw yn y cyfarwyddyd o dan adran 142.

(6)

Caiff adroddiad atodol osod y gofynion a ganlyn ar y cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro y bydd eu hardaloedd yn cael eu huno i greu’r brif ardal newydd, neu ar y cyngor cysgodol—

(a)

gofynion o fath a bennir yn F10adran 69J(1) o Ddeddf 2013;

(b)

gofynion o fath a bennir yn F11adran 69K(1) o Ddeddf 2013.

(7)

Pan fo adroddiad atodol yn ymwneud (yn llwyr neu’n rhannol) â’r cyngor cysgodol, mae F12adran 69J(2) o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â’r adroddiad hwnnw (i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i daliad gael ei wneud i’r cyngor cysgodol neu ganddo) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.

(8)

Mae’r cyfeiriadau yn F13adrannau 69L, 69N a 69P o Ddeddf 2013 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion a osodir gan adroddiad atodol yn rhinwedd yr adran hon.

(9)

Rhaid i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol bennu mewn perthynas â’r cyngor ar gyfer y brif ardal newydd (pa un a yw’n gyngor cysgodol neu’n brif gyngor ar adeg cyhoeddi’r adroddiad) yr wybodaeth a grybwyllir yn F14adran 69E(4) o Ddeddf 2013.

(10)

Rhaid i’r materion y mae’n ofynnol yn rhinwedd yr adran hon ac adran 142 eu cynnwys mewn adroddiad gan y F15Comisiwn mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi gael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

(11)

Ond, os yw’r F16Comisiwn yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad trosglwyddo, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â pha ran bynnag o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n digwydd ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.