Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

142Cyfarwyddydau i [F1Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo [F2Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru] bod rhaid iddo gyflawni ei swyddogaethau taliadau a phensiynau mewn perthynas ag—

(a)y cyngor cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a sefydlir o dan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, a

(b)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, am y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi.

(2)At ddibenion is-adran (1), swyddogaethau taliadau a phensiynau y [F3Comisiwn] yw’r swyddogaethau o dan yr adrannau a ganlyn yn [F4Rhan 5A o Ddeddf 2013]

(a)[F5adran 69A] (taliadau i aelodau), a

(b)[F6adran 69B] (pensiynau aelodau).

(3)Yn unol â hynny, mae [F7Rhan 5A] [F8o Ddeddf 2013] yn gymwys yn achos cyngor y mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys iddo; ond o ran ei gymhwysiad yn rhinwedd yr is-adran hon mae [F7Rhan 5A] yn ddarostyngedig i—

(a)is-adran (4), a

(b)adran 143.

(4)Pan fo [F9Rhan 5A o Ddeddf 2013] yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3)—

(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol at ddibenion y Rhan honno,

(b)caiff y Panel arfer ei swyddogaethau o dan [F9Ran 5A o Ddeddf 2013] mewn perthynas â’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd cyn i’r cyngor gael ei sefydlu (gan gynnwys drwy osod gofyniad y bydd y cyngor yn ddarostyngedig iddo pan fydd wedi ei sefydlu); yn unol â hynny, at y dibenion hynny mae’r Rhan honno i’w darllen fel pe bai’r cyngor, cyn iddo gael ei sefydlu, yn awdurdod perthnasol,

(c)pan na fo’r diwrnod trosglwyddo yn digwydd ar 1 Ebrill, mae’r cyfeiriadau yn [F10adran 69A] at flwyddyn ariannol yn cynnwys cyfeiriad at ran o’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi,

F11(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F12(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â phrif gyngor ar gyfer ardal sydd neu a oedd â chyngor cysgodol dynodedig, caiff y Panel, mewn perthynas â’r adegau cyn y bydd y cyngor wedi ei gyfansoddi o gynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf, ac ar ôl hynny—

(a)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1) o Fesur 2011;

(b)gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3) o’r adran honno;

(c)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) o’r adran honno;

(d)gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill gwahanol o dan is-adran (6) o’r adran honno;

(e)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3) o Fesur 2011.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 142(1) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(i)

I2A. 142(1) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(d)