Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

142Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) bod rhaid iddo gyflawni ei swyddogaethau taliadau a phensiynau mewn perthynas ag—

(a)y cyngor cysgodol ar gyfer prif ardal newydd a sefydlir o dan reoliadau uno neu reoliadau ailstrwythuro, a

(b)y prif gyngor ar gyfer yr ardal honno, am y flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi.

(2)At ddibenion is-adran (1), swyddogaethau taliadau a phensiynau y Panel yw’r swyddogaethau o dan yr adrannau a ganlyn yn Rhan 8 o Fesur 2011—

(a)adran 142 (taliadau i aelodau), a

(b)adran 143 (pensiynau aelodau).

(3)Yn unol â hynny, mae Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn achos cyngor y mae cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn gymwys iddo; ond o ran ei gymhwysiad yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn ddarostyngedig i—

(a)is-adran (4), a

(b)adran 143.

(4)Pan fo Rhan 8 o Fesur 2011 yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3)—

(a)mae’r cyngor cysgodol yn awdurdod perthnasol at ddibenion y Rhan honno,

(b)caiff y Panel arfer ei swyddogaethau o dan Ran 8 o Fesur 2011 mewn perthynas â’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd cyn i’r cyngor gael ei sefydlu (gan gynnwys drwy osod gofyniad y bydd y cyngor yn ddarostyngedig iddo pan fydd wedi ei sefydlu); yn unol â hynny, at y dibenion hynny mae’r Rhan honno i’w darllen fel pe bai’r cyngor, cyn iddo gael ei sefydlu, yn awdurdod perthnasol,

(c)pan na fo’r diwrnod trosglwyddo yn digwydd ar 1 Ebrill, mae’r cyfeiriadau yn adran 142 at flwyddyn ariannol yn cynnwys cyfeiriad at ran o’r flwyddyn ariannol y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi,

(d)nid yw adran 143A (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr) yn gymwys yn rhinwedd is-adran (3) (ond gweler adran 145(6) yn y Bennod hon, sy’n cymhwyso adran 143A pa un bynnag), ac

(e)nid yw adran 146 (adroddiad blynyddol cyntaf y Panel) yn gymwys (ond gweler adran 143(9) yn y Bennod hon).

(5)Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â phrif gyngor ar gyfer ardal sydd neu a oedd â chyngor cysgodol dynodedig, caiff y Panel, mewn perthynas â’r adegau cyn y bydd y cyngor wedi ei gyfansoddi o gynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf, ac ar ôl hynny—

(a)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1) o Fesur 2011;

(b)gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3) o’r adran honno;

(c)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4) o’r adran honno;

(d)gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill gwahanol o dan is-adran (6) o’r adran honno;

(e)gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3) o Fesur 2011.